Mae dŵr yn un o adnoddau mwyaf gwerthfawr y DU, yn hanfodol ar gyfer ein ffordd o fyw ac ar gyfer amgylchedd naturiol, iach. Mae’r galw am ddŵr yn cynyddu, ond mae dŵr yn adnodd cyfyngedig, ac mae pob diferyn a ddefnyddiwn ni yn golygu bod llai o ddŵr ar gael i fywyd gwyllt. Ni wnaiff newid yn yr hinsawdd ond ychwanegu at y pwysau hyn. Mae’n hanfodol fod sefydliadau ac unigolion fel ei gilydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb i ddefnyddio dŵr yn ddoeth er mwyn gwarchod ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae angen i sefydliadau fod yn ymwybodol o ddŵr, ar gyfer ein hamgylchedd naturiol a rennir ac ar ran staff neu gyfranddalwyr. Gall bil dŵr cwmni gwneuthur gynrychioli hyd at 1% o drosiant y busnes, tra bod busnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a gwasanaeth yn aml yn gwastraffu cymaint â hanner yr holl ddŵr maent yn ei ddefnyddio.
Mae’r Gwobrau’n dathlu arfer gorau ac yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd effeithlonrwydd dŵr o fewn busnes a diwydiant. Y Gwobrau oedd y cynllun gwobrwyo cyntaf i gyflawni ardystiad o dan Gynllun Ardystio’r RSA ar gyfer Gwobrau Amgylcheddol a Datblygu Cynaliadwy.
Dyma’r nawfed flwyddyn y cynhaliwyd Gwobrau Effeithlonrwydd Dŵr Asiantaeth yr Amgylchedd.
Hwn yw’r prif gynllun yng Nghymru a Lloegr er mwyn cydnabod llwyddiannau busnes yn y gwaith o hyrwyddo effeithlonrwydd dŵr.
Y Gwobrau oedd y cynllun gwobrwyo cyntaf i gyflawni ardystiad o dan Gynllun Ardystio’r RSA ar gyfer Gwobrau Amgylcheddol a Datblygu Cynaliadwy.
Cynhelir y seremoni Gwobrwyo nesaf ar 15 Gorffennaf 2009.