Y cam cyntaf yn y prosiect oedd i ddadansoddi'r gwesty er mwyn canfod lle gellid arbed dŵr. Roedd hyn yn cynnwys trwsio diferiadau, tapiau a oeddent yn diferu a rhoi cawodydd yn lle baddonau. Cafodd cyfarpar yn cynnwys peiriannau golchi a golchi llestri eu harchwilio o ran eu heffeithiolrwydd dŵr, ac adnewyddwyd hwy pan nad oeddent yn economaidd i'w trwsio mwyach, gyda modelau ynni/dŵr effeithlon ac fe'u defnyddiwyd ar gyfer llwythi llawn yn unig.
Rhoddir llyfryn i bob gwestai sy'n gofyn iddynt helpu i arbed dŵr trwy ailddefnyddio tywelion, cael eu dillad gwely a'u tywelion wedi'u newid yn llai mynych ac i wneud newidiadau bach gan gynnwys peidio â gorlenwi tegelli a throi tapiau i ffwrdd tra'n brwsio'u dannedd.
Am fuddsoddiad o ddim ond £16, a chost flynyddol o £15 er mwyn diweddaru ystafelloedd gwely gwestai gyda llyfrynnau newydd, mae'r enillion ariannol wedi bod yn drawiadol. Mae'r arbediadau ar gostau dŵr wedi'i fesur a gwastraff, cynhyrchion ynni a londri yn dod i fwy na £840 y flwyddyn. Gyda'r ffigyrau ar gyfer y defnydd a wneir o dŵr prif gyflenwad a gwaredu i'r brif garthffos wedi'u haneru, mae'r prosiect hwn yn dangos yn union beth y gellir ei gyflawni gyda newidiadau bach ond pwysig i ddefnyddio dŵr.
Codi ymwybyddiaeth effeithlonrwydd dŵr ar gyfer gwesteion a pherchnogion gwestai a gwestai bach lleol;
Cwtogi ar y dŵr a ddefnyddir gan 46 y cant;
Arbediadau blynyddol o £840.