
Yn dathlu ymgyrchoedd gwych sy’n newid dull pobl o ddefnyddio dŵr. Bydd y categori hwn yn ystyried prosiectau gyda phwyslais ar gyfathrebu ac addysgu cynulleidfa darged er mwyn codi ymwybyddiaeth, gan arwain at newid positif mewn agweddau tuag at ddefnyddio dŵr. Bydd y beirniaid yn edrych am ymgyrchoedd wedi’u cynllunio a’u strwythuro’n dda, yn ogystal â thystiolaeth o faint y mae agweddau neu ymddygiad y gynulleidfa darged wedi newid o ganlyniad i’r prosiect.

Bydd y wobr hon yn ceisio gwobrwyo prosiectau sy’n ymwybodol o ddŵr lle cyflawnwyd arbediadau amgylcheddol ac ariannol mesuradwy naill ai trwy newid sut y defnyddir dŵr bob dydd mewn adeiladau busnes, neu trwy broses gynhyrchu. Bydd y beirniaid yn edrych am dystiolaeth o faint o ddŵr a ddefnyddiwyd cyn ac ar ôl rhoi’r prosiect ar waith, ynghyd â gwybodaeth glir ynghylch y broses o ddefnyddiwyd a sut cafodd y prosiect ei gyfathrebu a’i gyflawni o fewn y sefydliad.

Yn rhoi cydnabyddiaeth i atebion craff ar gyfer defnyddio dŵr yn gynaliadwy. Bydd y categori hwn yn ceisio gwobrwyo prosiectau neu ymchwil academaidd yng nghyswllt effeithlonrwydd dŵr lle cafodd atebion creadigol eu canfod er mwyn goresgyn rhwystrau i gyflawni atebion cynaliadwy; ac maent wedi cyfrannu at gynyddu gwybodaeth a gwella dealltwriaeth. Bydd y beirniaid yn edrych am dystiolaeth o sut y meddyliwyd am ac y gweithredwyd y prosiect neu’r ymchwil ac nid o reidrwydd am faint o ddŵr a arbedwyd.

Yn cymeradwyo llwyddiannau cyffredinol rhagorol mewn effeithlonrwydd dŵr. Nod y categori hwn yw wobrwyo busnesau am eu hymdrechion cyffredinol, rhagorol er mwyn cyflawni effeithlonrwydd dŵr, gan gynnwys arbediadau dŵr ac ynni, cyfathrebiadau ac arloesedd. Dewisir dau enillydd, un o’r sector Cyfleustodau Dŵr a chwmni o’r sector busnes ehangach.
O safbwynt ymgeiswyr o fewn y sector Cyfleustodau Dŵr, bydd beirniaid yn edrych am ymrwymiad i effeithlonrwydd dŵr sy’n gosod y cwmni mewn safle uwchlaw gofynion rheoliadol ac sy’n gweithredu fel un sy’n goleuo’r ffordd ar gyfer ei gymheiriaid. Bydd beirniaid yn edrych am dystiolaeth o: annog arfer gorau cyhoeddus/masnachol, buddsoddi mewn seilwaith, strategaeth glir, cydweithredu â chystadleuwyr.
Cyhoeddir enillwyr yr holl Wobrau mewn seremoni yng Nghanol Llundain ar 15 Gorffennaf 2009.
Gwobr Gweiddi am Dŵr a gefnogir gan Ofwat
Dathlu ymgyrchoedd gwych sy’n newid dull pobl o ddefnyddio dŵr.
Gwobr Arbed Dŵr a gefnogir gan Y Ffederasiwn Bwyd a Diod
Rhoi cydnabyddiaeth i fesurau ymarferol sy’n arbed dŵr ac arian.
Gwobr Datrys Dŵr a gefnogir gan Defra
Rhoi cydnabyddiaeth i atebion craff ar gyfer defnyddio dŵr yn gynaliadwy.