Bu Ian yn Bennaeth Adnoddau Dŵr yn Asiantaeth yr Amgylchedd ers 2002.
Ef sy’n gyfrifol am reoli a chynllunio adnoddau dŵr yn strategol dros y tymor hir ar draws Cymru a Lloegr.
Cyn ei swydd bresennol yr oedd Ian yn Bennaeth y Ganolfan Genedlaethol Rheoli’r Galw am Ddŵr, (a gafodd ei gynnwys erbyn hyn yn ei adran ef). Yr oedd gynt yn Rheolwr Adnoddau Dŵr ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a threuliodd llawer o’i yrfa gynnar mewn amrywiaeth o rolau gyda Dŵr Swydd Efrog a’r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol.
Mae Ian yn aelod o Raglen Busnes a’r Amgylchedd Tywysog Cymru a hefyd yn aelod o fwrdd Envirowise.
Mae Martin yn Ddirprwy Brif Weithredwr yn y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol, gyda chyfrifoldeb am strategaeth a chysylltiadau allanol. Mae ei waith yn cynnwys datblygu safonau cenedlaethol a rhyngwladol ynghylch rheolaeth amgylcheddol, gan helpu sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat i wella eu perfformiad amgylcheddol ac economaidd. Mae Martin hefyd yn weithgar yn y dasg o godi proffil yr alwedigaeth amgylcheddol ac mewn datblygu sgiliau ar gyfer economi carbon-isel ac adnodd-effeithlon.
Mae Jim yn Gadeirydd ar SEAL Cyf., cwmni amgylcheddol wedi’i seilio yn Burgess Hill, y defnyddir eu hoffer er mwyn rhoi bron yr holl ddŵr yn y DU ar brawf. Cafodd ei benodi i Fwrdd SEEDA, yr Awdurdod Datblygu ar gyfer De Ddwyrain Lloegr yn Rhagfyr 2001. Enillodd y CBE am wasanaethau i economi Sussex yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2001. Derbyniodd, yn ogystal Radd Er Anrhydedd oddi wrth Goleg Prifysgol Chichester yn 2003 a daeth yn Gymrodor Mygedol o’r City & Guilds yn Chwefror 2006 ac yn Gynghorydd ym Medi 2006. Yn Hydref 2007, penodwyd Jim yn Is-Gennad Mygedol dros Dde Affrica yn Ne Ddwyrain Lloegr.
Mae David Butler yn Athro Peiriannu Dŵr ym Mhrifysgol Exeter ac yr oedd gynt yn athro a phennaeth y Grŵp Ymchwil Dŵr Trefol (UWRG) yng Ngholeg Imperial Llundain. Mae ganddo radd mewn peirianneg sifil a saernïol o Goleg y Brifysgol, Caerdydd, a gradd meistr a doethur mewn peirianneg iechyd cyhoeddus o Goleg Imperial. Y mae’n beiriannydd sifil siartredig ac yn amgylcheddwr siartredig, ac yn Gymrodor o ICE a CIWEMA. Mae ganddo oddeutu 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant dŵr. Y mae’n arbenigo mewn rheoli dŵr trefol yn gynaliadwy, arbed dŵr ac ailgylchu, modelu integredig systemau dŵr trefol, rheoli dŵr gofodol, rheolaeth weithredol o ddŵr ffo stormydd a llifogydd, prosesau mewn carthffosydd a datblygu arfau ategu penderfyniadau.
Wedi’i fagu yn Huddersfield, Gorllewin Swydd Efrog, ar ôl gadael yr ysgol treuliodd Steve bedair blynedd fel swyddog bwrdd yn y Llynges Fasnachol, yn teithio’r bydd ar amrywiaeth o longau. Wedi iddo roi’r gorau i fywyd ar y môr, cwblhaodd Steve BSc mewn Astudiaethau Morol yng Ngholeg Polytechnig Lerpwl a dechrau ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn llongau. Yna cychwynnodd Steve yrfa grwydrol mewn newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus sydd wedi’i arwain i farchnadoedd gwahanol gan gynnwys cludiant ffordd, manwerthu bwydydd, contractio trydanol, awtomeiddio diwydiannol ac, ers Mawrth 2005, cyfleustodau.
Mae Steve yn byw yn Carshalton, Surrey, ac y mae’n briod ac yn dad i ferch yn ei harddegau. Marchogaeth yw ei brif hobi a chynnal casgliad bach o hen fotobeics.
Dechreuodd ei yrfa yn gweithio yn y diwydiant dŵr ar gyfer Dŵr Anglia mewn amryw o swyddi gwyddonol. Mae ganddo gymwysterau mewn microbioleg a gweithiodd ar y dasg o sefydlu ansawdd dyfroedd amgylcheddol ac yfed.
Ym 1992 ymunodd â’r Arolygiaeth Dŵr Yfed gan weithio ar orfodi’r rheoliadau dŵr yfed trwy gynnal archwiliadau technegol o gwmnïau dŵr ac ymchwilio i ddigwyddiadau ansawdd dŵr.
Yn 2002 symudodd i fod yn Bennaeth Isadran yn Adran Cyflenwi a Rheoleiddio Dŵr Defra. Mae gan yr isadran gyfrifoldeb polisi dros ansawdd dŵr yfed ac arbed dŵr.
Ar hyn o bryd y mae’n gweithio ar bolisïau er mwyn hyrwyddo arbed dŵr trwy reoli’r galw er mwyn gyrru datblygiad adnoddau dŵr mewn modd cynaliadwy. Mae a wnelo hyn â gweithio ar reoli diferiadau, hyrwyddo cynhyrchion ac ymddygiad sy’n ddŵr-effeithlon yn ogystal â gweithio gyda CLG er mwyn datblygu safonau cynaladwyedd gwell ar gyfer cartrefi a datblygiadau newydd.
Mae gwybodaeth arbenigol Erica ym maes gwella effeithlonrwydd ac arfer busnes cynaliadwy. Ymunodd â Chyswllt Busnes yn 2005 ar ôl iddi gychwyn ei gradd Meistr mewn Datblygu Cynaliadwy.
Cyn ei MSc, gweithiodd Erica o fewn marchnata, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus a datblygu cynhyrchiant ar gyfer cwmnïau ccc mawr. Mae ganddi ystod anferth o brofiad o weithio gyda manwerthwyr pwysig ar y Stryd Fawr a gwneuthurwyr hunan-ymdopi (DIY). Wedi gweithio mewn cwmnïau mawr sy’n cyflogi miloedd o bobl, mewn cwmni cydweithredol a bod yn berchen ar ei busnes bach ei hun, mae gan Erica bob cymhwyster er mwyn rhoi cyngor i fusnesau o bob maint ar nifer o bynciau, yn ymestyn o farchnata a datblygu cwmni i gynaladwyedd ac effeithlonrwydd.
Andrew joined FDF as Director of Sustainability and Competitiveness in Janaury 2009, after a long and varied career in the Civil Service. He joined MAFF from Cambridge, with a degree in Modern Languages. Shortly after initial training, he spent 18 months at the Ecole Nationale d'Administration (ENA) in Paris before returning to posts dealing with EU Common Agriculture and Fisheries Policies. He was later First Secretary in the UK Permanent Representation in Brussels and had a further secondment to the FCO as Counsellor (Agriculture and Economic) at the British Embassy in Paris.
His subsequent postings in MAFF and then Defra centred on EU and international trade and commodity issues. Most recently he was a Deputy Director in the Natural Environment Group, responsible for Environmental Stewardship schemes and other land management issues. Andrew was awarded a CBE in 2006 for services to Defra, having successfully led negotiations on EU sugar reform under the UK Presidency.
Andrew has 3 children, who between them leave him little time to pursue his own interests in writing, music and art.
Penodwyd Graham i fwrdd Dŵr y De Ddwyrain yn Rhagfyr 2007, a gwasanaethodd yn flaenorol fel Cadeirydd cwmni Dŵr Canol Caint gynt. Bu Graham hefyd yn Gadeirydd ar fwrdd Dŵr Sefydliad y Peirianwyr Sifil a Fforwm Dŵr y De Ddwyrain. Gynt yn ddirprwy reolwr-gyfarwyddwr Dŵr y De, swydd ddiweddaraf Graham oedd fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr yn Dŵr y DU.
Mae Claire Sweeney wedi gweithio yn y maes amgylcheddol am 10 mlynedd. Hi sy’n arwain Tîm Dŵr Envirowise, ac mae’n gyfrifol am gyflawni prosiectau a luniwyd er mwyn lleihau faint o ddŵr a ddefnyddir gan fusnes.
Mae Claire yn aelod, yn ogystal, o'r tîm sy’n gyfrifol am y Cynllun Lwfans Cyfalaf Uwch ar gyfer Technolegau Dŵr-Effeithlon.
Cyn gweithio fel ymgynghorydd, bu’n gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd am 3 blynedd, yn rheoleiddio’r diwydiannau Dŵr a Gwastraff ac ymateb o ddigwyddiadau llygredd.