The Environment Agency water Efficiency Awards 2009

Y Noddwyr

Noddwyr categorïau eleni yw:

Defra

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Yr her yn anad dim ar gyfer Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) yw i sicrhau amgylchedd iach lle gallwn ni a chenedlaethau’r dyfodol ffynnu.

Wrth i ni lunio economi carbon-isel, adnodd-effeithlon, mae Defra’n helpu pobl i ymaddasu i newidiadau, yn mynd i’r afael â pheryglon amgylcheddol ac yn gwneud y defnydd gorau posib o’r cyfle sydd gennym yn awr i sicrhau cymdeithas gynaliadwy ac amgylchedd iach. Bydd hyn yn helpu i oroesi’r cyfnod economaidd anodd hwn, prisiau bwyd ac ynni cyfnewidiol a hinsawdd sy’n newydd sydd bob un ohonynt yn ein gwneud yn fwy ymwybodol nad allwn gymryd ein hamgylchedd yn ganiataol.

Byddwn yn ymdrin â phob agwedd ar bolisi dŵr yn Lloegr, gan gynnwys cyflenwi ac adnoddau dŵr, a’r systemau rheoliadol ar gyfer yr amgylchedd dŵr a’r diwydiant dŵr. Mae’r rhain yn cynnwys ansawdd dŵr yfed; ansawdd y dŵr mewn afonydd, llynnoedd ac aberoedd, dyfroedd arfordirol a morol; trin carthion; a diogelwch cronfeydd.

The Food and Drink Federation

Y Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF)yw llais diwydiant bwyd a diod y DU, y sector gwneuthur mwyaf yn y wlad. Mae aelodaeth yr FDF yn cynnwys cynhyrchwyr o bob maint yn ogystal â chymdeithasau masnach a grwpiau sy’n ymdrin â sectorau penodol o’r diwydiant.

  • Yr ydym yn helpu ein haelodau i weithredu mewn marchnadfa a reoleiddiwyd yn addas er mwyn mwyafu eu cystadleugarwch i’r eithaf.
  • Byddwn yn cyfathrebu gwerthoedd a phryderon ein diwydiant i’r Llywodraeth, rheolyddion, prynwyr a’r cyfryngau.
  • Yr ydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda chwaraewyr allweddol yn y gadwyn fwyd er mwyn sicrhau fod ein bwyd yn ddiogel ac y gall ein cwsmeriaid ymddiried ynddo.

Ofwat

Gwarchod prynwyr, hyrwyddo gwerth a diogelu’r dyfodol

Mae Ofwat yn sicrhau fod cwsmeriaid yn cael bargen deg a gwerth oddi wrth eu cwmni dŵr. Bydd yn gwneud hyn trwy gyfyngu ar y prisiau y gall cwmnïau eu gosod a sicrhau fod biliau cwsmeriaid yn cael eu cadw mor isel â phosibl.

Mae Ofwat yn edrych yn fanwl ar fuddsoddiad pob cwmni a’i wasanaethau i brynwyr. Os yw cwmni’n methu â chyflawni beth mae Ofwat neu eu cwsmeriaid yn ei ddisgwyl, bydd yn eu dal yn atebol i’r cyhoedd ac yn gweithredu er mwyn gwarchod buddion prynwyr.

Mae Ofwat yn annibynnol ar y llywodraeth a’r cwmnïau dŵr, ond y mae’n atebol i’r Senedd a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bob blwyddyn, bydd Ofwat yn cyhoeddi adroddiad blynyddol a gyflwynir ger bron y Senedd. Mae Ofwat yn cydweithio’n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Arolygiaeth Dŵr Yfed. Y rhain yw’r rheolyddion ansawdd dŵr.


Buddsoddwch ychydig o amser ac arian mewn cynllun rheoli dŵr a medrech chi arbed arian a chwtogi ar y dŵr a ddefnyddir gan hyd at 80%.

Pam fod effeithlonrwydd dŵr yn bwysig?

Noddwyr categori

Logos for OFWAT, Food and Drink Federation and DEFRA

Y beirniaid