The Environment Agency water Efficiency Awards 2009

Pam fod effeithlonrwydd dŵr yn bwysig?

Mae dŵr yn hanfodol i fywyd ac yn adnodd gwerthfawr sy’n cynnal ein bywoliaethau ac ansawdd ein bywydau. Yn y DU mae’r pwysau ar adnoddau dŵr yn cynyddu ac er gwaethaf rhagdybiaethau cyffredin ynghylch ein tywydd, y gwirionedd yw fod gennym lai o ddŵr y pen o gryn dipyn na gwledydd Môr y Canoldir fel yr Eidal neu Sbaen!

Ar ben hyn, oherwydd fod angen trin ein holl ddŵr cyn ac ar ôl ei ddefnyddio, mae pob diferyn byddwn yn ei wastraffu yn defnyddio ynni ac yn achosi i nwyon tŷ gwydr gael eu rhyddhau. Mewn gwirionedd, petai teulu o bedwar gyda chawod gyffredin i gyd yn byrhau’r amser maent yn ei dreulio wrth gymryd cawod o 6 i 5 munud bob dydd, medrent arbed oddeutu 160Kg o allyriadau CO2 a 14,000 litr o dd ŵ r mewn blwyddyn.

Mae angen i sefydliadau fod yn ymwybodol o ddŵr, ar gyfer ein hamgylchedd naturiol a rennir ac ar ran staff neu gyfranddalwyr. Gall bil dŵr cwmni gwneuthur gynrychioli hyd at 1% o drosiant eu busnes, tra bod busnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a gwasanaeth yn aml yn gwastraffu cymaint â hanner yr holl ddŵr maent yn ei ddefnyddio.

Mae dŵr yn un o adnoddau mwyaf gwerthfawr y DU, yn hanfodol ar gyfer ein ffordd o fyw ac ar gyfer amgylchedd naturiol iach. Mae’r galw am ddŵr yn cynyddu, ond mae dŵr yn adnodd cyfyngedig, ac mae pob diferyn a ddefnyddiwn ni yn golygu bod llai o ddŵr ar gael i fywyd gwyllt. Ni wnaiff newid yn yr hinsawdd ond ychwanegu at y pwysau hyn. Mae’n hanfodol fod sefydliadau ac unigolion fel ei gilydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb i ddefnyddio dŵr yn ddoeth er mwyn gwarchod ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ar gipolwg

Mae dŵr yn hanfodol i fywyd.

Mae pob diferyn byddwn yn ei wastraffu yn defnyddio ynni ac yn achosi i nwyon tŷ gwydr gael eu rhyddhau.

Gall bil dŵr cwmni gwneuthur gynrychioli hyd at 1% o drosiant y busnes.

Mae’r galw am ddŵr yn cynyddu, ond mae dŵr yn adnodd cyfyngedig, ac y mae pob diferyn a ddefnyddiwn ni yn golygu llai o ddŵr ar gyfer bywyd gwyllt.


Buddsoddwch ychydig o amser ac arian mewn cynllun rheoli dŵr a medrech chi arbed arian a chwtogi ar y dŵr a ddefnyddir gan hyd at 80%.

Pam fod effeithlonrwydd dŵr yn bwysig?

Noddwyr categori

Logos for OFWAT, Food and Drink Federation and DEFRA

Y beirniaid